HANES BYR
O'R MAES
[ Creu 1817/21]

GAN GYNNWYS LLUNIAU

gan

T.MEIRION HUGHES

Y MAES c.1855 Lithograff J. Fagan o ddarlun lliw J.J. Dodd.

Hyd at 1817, bryn gwyrddlas gyda thop fflat o'r enw "Y Maes Glas" oedd ar y darn tir a elwir Y Maes heddiw. Fe'i cariwyd, carreg wrth garreg, fesul llwyth trol i lawr Allt y Castell a'i ddefnyddio fel sylfaen i'r Cei Llechi, pan wnaed estyniad i'r porthladd. Cwblhaed y gwaith erbyn 1821 a chredir mai hwn oedd y Cynllun Creu Gwaith cyntaf o'i fath, gan gyflogi llawer o rai di-waith y dref, ac yn ei plith cyn-filwyr a fu'n ymladd yn Rhyfeloedd Napoleon. Mae'n syndod cyn lleied y mae'r Maes wedi newid ers y dyddiau cynnar. Noder yr adeilad o dan Porth Y Frenhines Elinor. Yno roedd yr Ystafelloedd Darllen Cyhoeddus

GOLYGFA DEBYG O'R MAES DYDDIEDIG c.1885

Nodir fel y dangosir y ffowntan, a godwyd yn 1868, ar y chwith o'r llun ac adeiladau'r Pater Noster, c.1883, ar y dde. Ond gwelir bod cerflun Syr Hugh Owen yn absennol. Golyga hyn bod y llun cyn 1888. 1885 o bosib.

DADORCHUDDIO CERFLUN SYR HUGH OWEN

Darlun prin iawn. Y dyddiad oedd Hydref 26. 1888

MARCHNAD ANIFEILIAID AR Y MAES c.1900

Dengys y llun y ffowntan a cherflun Syr Hugh Owen ac hefyd dri o dai o flaen y castell. Dymchwelwyd y rhain cyn Arwisgiad 1911, fel y cawsai'r cyhoedd weld Porth Y Frenhines Elinor. Cyflwynwyd y darn tir i'r dref gan y diweddar (Mr. ar y pryd) C.G. Duff Assheton-Smith.

 (c) T. Meirion Hughes

Saesneg

Yn ôl